Teitl y grŵp trawsbleidiol: |
Y Lluoedd Arfog a’r Cadetiaid |
Dyddiad y cyfarfod: |
18 Hydref 2023 |
Lleoliad: |
Cyfarfod Hybrid – Tŷ Hywel ac ar-lein drwy gyfrwng Microsoft Teams |
Enw: |
Teitl: |
Darren Millar AS |
Cadeirydd a’r Aelod dros Orllewin Clwyd |
Alun Davies AS |
Is-Gadeirydd a’r Aelod dros Flaenau Gwent |
James Evans AS |
Yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed |
Jack Sargeant AS |
Yr Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy |
Sam Rowlands AS |
Aelod dros Ogledd Cymru |
Peter Fox AS |
Yr Aelod dros Fynwy |
Rhianon Passmore AS |
Yr Aelod dros Islwyn |
Cyrnol James Phillips (ar-lein) |
Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru |
Brigadydd Nick Thomas CBE (ar-lein) |
160fed Brigâd (Cymru) |
Ella Fortune (ar-lein) |
Yr Awyrlu Brenhinol |
Robert Govier (ar-lein) |
Y Llynges Frenhinol |
Craig Stockdale (ar-lein) |
160fed Brigâd (Cymru) |
Adrian Leslie (ar-lein) |
Y Lleng Brydeinig Frenhinol |
Cyrnol Dominic Morgan (ar-lein) |
Cymdeithas Lluoedd wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru (RFCA) |
Peter Kellam |
Llywodraeth Cymru |
Peter Evans (ar-lein) |
Llywodraeth Cymru |
Millie Taylor (ar-lein) |
Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru (SSCE Cymru) |
Tina Foster |
Gwasanaeth Cyn-filwyr a Theuluoedd, Tros Gynnal Plant Cymru (TGP Cymru) |
Graham Jones |
Woody's Lodge |
Christopher Mills (ar-lein) |
Cartrefi i Gyn-filwyr Cymru |
Simon Frith (ar-lein) |
Alabare |
Neil Lawman |
Adferiad |
Roger Lees |
Adferiad |
Michael Harvey |
Adferiad |
Lianne Martynski (ar-lein) |
Adferiad |
Y Cynghorydd Ian Buckley (ar-lein) |
Hyrwyddwr Cyn-filwyr (Bro Morgannwg) |
Y Cynghorydd David Evans (ar-lein) |
Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, Cyngor Sir y Fflint |
Y Cynghorydd Glyn Haynes (ar-lein) |
Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, Cyngor Sir Ynys Môn |
Y Cynghorydd Teresa Heron |
Hyrwyddwr Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog (Caerffili) |
Y Cynghorydd Mark Spencer (ar-lein) |
Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, Cyngor Dinas Casnewydd |
Andy Jones (ar-lein) |
Swyddog Cyswllt Cyfamod y Lluoedd Arfog (Powys) |
Jamie Ireland (ar-lein) |
Swyddog Cyswllt Cyfamod y Lluoedd Arfog (Dwyrain De Cymru) |
Lisa Rawlings |
Swyddog Cyswllt Cyfamod y Lluoedd Arfog (Gwent) |
Stephen Townley (ar-lein) |
Swyddog Cyswllt Cyfamod y Lluoedd Arfog (Gogledd Cymru) |
Zoe Roberts (ar-lein) |
Arweinydd Cydweithredol Cyfamod y Lluoedd Arfog a Gofal Iechyd Cyn-filwyr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr |
Tara Moorcroft (ar-lein) |
Ysgrifennydd a Swyddfa Darren Millar AS |
Archie Draycott |
Swyddfa Darren Millar AS |
Lee Gonzalez |
Swyddfa Joel James AS |
Felix Millbank |
Swyddfa James Evans AS |
Jena Quilter |
Staff Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig |
Eleanor Lancaster |
Swyddfa Julie Morgan AS |
Enw: |
Teitl: |
Llyr Gruffydd AS |
Aelod dros Ogledd Cymru |
Joel James AS |
Aelod dros Ganol De Cymru |
Laura Anne Jones AS |
Aelod dros Ddwyrain De Cymru |
Janet Finch-Saunders AS |
Yr Aelod dros Aberconwy |
Y Brigadydd Jock Fraser |
Y Llynges Frenhinol |
Comodor yr Awyrlu Dai Williams |
Yr Awyrlu Brenhinol |
Y Cynghorydd Paul Hinge |
Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, Cyngor Ceredigion |
Y Cynghorydd Wendy Lewis |
Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, Cyngor Dinas a Sir Abertawe |
Y Cynghorydd Elizabeth Roberts |
Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy |
Y Cynghorydd Eddie Williams |
Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, Cyngor Bro Morgannwg |
Alun Thomas |
Prif Swyddog Gweithredol, Adferiad |
1. Cyflwyniadau ac ymddiheuriadau
2. Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2023 · Cafodd Darren Millar AS ei ailethol yn unfrydol yn Gadeirydd. · Cafodd Alun Davies AS ei ailethol yn unfrydol yn Ddirprwy Gadeirydd. · Cafodd Tara Moorcroft ei hethol yn unfrydol yn Ysgrifennydd.
3. Diweddariadau yn deillio o’r cyfarfod blaenorol. · Croesawodd y Cadeirydd yr aelodau newydd i’r Grŵp. · Ysgrifennodd y Cadeirydd at Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth yn dilyn y cyfarfod blaenorol, yn sgil galwadau gan y grŵp am sefydlu Amgueddfa Treftadaeth Filwrol Genedlaethol yng Nghymru. Bydd y Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd yn cyfarfod â'r Dirprwy Weinidog i drafod y galwadau hyn ymhellach. · Rhoddodd y Cadeirydd drosolwg o’r ymateb a gafwyd gan y Gweinidog Addysg mewn perthynas â’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod hanes milwrol yn cael ei gydnabod yn y cwricwlwm newydd. Rhannwyd yr ymateb a gafwyd gydag aelodau’r grŵp ym mis Gorffennaf. · Cyflwynodd y Cadeirydd gwestiwn i Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag arweinwyr Cyfamod y Lluoedd Arfog mewn byrddau iechyd lleol yng Nghymru. Rhannwyd yr ymateb a gafwyd gydag aelodau’r grŵp ym mis Gorffennaf. · Cytunwyd y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at bob bwrdd iechyd yng Nghymru i ofyn iddynt benodi arweinydd ar gyfer Cyfamod y Lluoedd Arfog, os nad ydynt wedi gwneud hynny eisoes. · Rhoddodd y Cadeirydd drosolwg o'r ohebiaeth a gyfnewidiwyd â Llywodraeth Cymru ynghylch y gwasanaeth a ddarperir gan GIG Cymru i gyn-filwyr. · Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am ymgyrch flynyddol i hyrwyddo gwasanaeth GIG Cymru ar gyfer cyn-filwyr. · Mae'r Cadeirydd yn ymgysylltu ag Adferiad ynghylch y rhaglen Change Step. · Dywedodd y Cadeirydd fod Aelodau o'r Senedd wedi cynnal nifer o ymweliadau ers y cyfarfod diwethaf, gan gynnwys ymweliad â Chanolfan Alwadau Porth y Cyn-filwyr gyda'r Lleng Brydeinig Frenhinol ym mis Mehefin; ymweliad â Gweinyddiaeth Amddiffyn Sain Tathan, fel rhan o Gynllun Lluoedd Arfog y Senedd, ym mis Gorffennaf; ymweliad ag Arddangosfa'r Fyddin yn Llundain ym mis Awst; ac ymweliad a’r Ymarfer Patrol Cambria ym Mhontsenni ym mis Hydref. · Rhoddodd y Cadeirydd ganmoliaeth i’r Ymarfer Patrol Cambria, gan roi pwyslais ar bwysigrwydd cynnal yr ymarfer hwn yng Nghymru. · Dywedodd y Cadeirydd fod Jack Sargeant AS wedi agor canolfan ar gyfer cyn-filwyr yng Nghei Connah yn ddiweddar. Ymwelodd y Cadeirydd â’r ganolfan hon yn ddiweddar hefyd. · Dywedodd y Cadeirydd fod trafodaethau'n parhau ynghylch coffáu milwrol dramor gyda'r Is-gyrnol Nicholas Lock. Mae'r Brigadydd Jock Fraser yn parhau i ymchwilio’r mater o gyllid ar gyfer yr Amgueddfa Meddygaeth Filwrol. Bydd y Cadeirydd yn rhannu unrhyw ddiweddariadau gyda'r grŵp.
4. Briff gan y Cyrnol (wedi ymddeol) James Phillips, Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru. · Rhoddodd y Cyrnol Phillips gyflwyniad i'w waith fel Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru, a’i sefyllfa bresennol o ran cynrychioli cyn-filwyr yng Nghymru ac eirioli drostynt. · Dywedodd y Comisiynydd ei fod yn adrodd i Lywodraeth y DU ac i Lywodraeth Cymru, gan roi trosolwg o’r gwaith sy’n mynd rhagddo gyda Llywodraeth y DU. · Rhoddodd y Comisiynydd drosolwg o ganlyniadau Cyfrifiad 2021 mewn perthynas â chyn-filwyr yng Nghymru. Dywedodd y Comisiynydd fod y ganran o gyn-filwyr ar ei huchaf yng Nghymru (4.5 y cant) o gymharu â gweddill y DU. · Yn ôl ystadegyn diweddar a ddarparwyd gan Bartneriaeth Pontio Gyrfa'r Weinyddiaeth Amddiffyn, mae 87 y cant o gyn-filwyr yn cael eu cyflogi o fewn chwe mis i adael y gwasanaeth, ac mae gan 66 y cant o gyflogwyr ddiddordeb mewn recriwtio mwy o gyn-filwyr yn eu sefydliadau. · Amlinellodd y Comisiynydd sut mae’n ceisio glynu wrth ddull gweithredu pum cam wrth gefnogi cyn-filwyr. Y camau hyn yw: deall anghenion cyn-filwyr; ceisio meithrin ymddiriedaeth gyda chyn-filwyr a rhanddeiliaid sy'n effeithio ar fywydau cyn-filwyr; nodi bylchau mewn darpariaeth a meysydd ar gyfer cydweithio; trawsnewid sefyllfaoedd ac ysgogi newid; a sicrhau bod cyfathrebu'n glir. · Dywedodd y Comisiynydd fod cyn-filwyr, ar y cyfan, yn cael eu cefnogi’n dda yng Nghymru, ond bod pryder ynghylch iechyd a lles, a bod hyn, o bosibl, yn adlewyrchu’r pwysau ar y GIG yng Nghymru. · Yn ogystal â hyn, mae oedi sylweddol o ran cael triniaethau trawma ac orthopedig, sy’n faes arall sy’n peri pryder i’r Comisiynydd. · Mynegodd y Comisiynydd bryder ynghylch y data sydd ar gael i gymuned y cyn-filwyr, ond tynnodd sylw at y gwelliannau a wnaed yn dilyn Cyfrifiad 2021 a’r Arolwg Cyn-filwyr diweddar a gynhaliwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) a’r Swyddfa Materion Cyn-filwyr (OVA). · Rhoddodd y Comisiynydd drosolwg o’i flaenoriaethau ar gyfer 2023, a oedd yn cynnwys cynnal adolygiad ynghylch perfformiad Veterans UK ac adolygiad ynghylch ymwybyddiaeth a blaenoriaethu mewn perthynas â chyn-filwyr o fewn GIG Cymru. · Soniodd y Comisiynydd am gyflwyno cardiau adnabod ar gyfer cyn-filwyr – cam a ddylai wella mynediad at gymorth gan awdurdodau lleol ac elusennau. · Tynnodd y Comisiynydd sylw at Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog. · Rhoddodd y Comisiynydd drosolwg o’r gwaith sy’n cael ei wneud i gydnabod cyn-filwyr sydd ar y cyrion ac i sicrhau mynediad i gartrefi cynaliadwy hirdymor ar gyfer cyn-filwyr. · Rhoddodd y Comisiynydd ganmoliaeth i swyddogion cyswllt y lluoedd arfog, swyddogion cyswllt ysgolion, a hyrwyddwyr y lluoedd arfog yng Nghymru am eu gwaith. Yn ogystal, rhoddodd ganmoliaeth i elusennau’r DU ac elusennau llai yng Nghymru, fel Woody’s Lodge, a’r rhwydwaith o ganolfannau ar gyfer cyn-filwyr. · Gofynnodd James Evans AS am ragor o wybodaeth ynghylch gwaith ymgysylltu y Comisiynydd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, o ran yr elfen tai a gofal ar gyfer cyn-filwyr. Dywedodd y Comisiynydd ei fod yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. · Gofynnodd y Cadeirydd pa gamau y gallwn eu cymryd yng Nghymru er mwyn sicrhau ei bod yn haws i gyn-filwyr gael mynediad at gardiau ar gyfer cyn-filwyr. Dywedodd y Comisiynydd ein bod yn aros am ymrestriad y DU ac ymgyrchoedd yn y cyfryngau cenedlaethol. Yn dilyn hynny, dylem annog cyn-filwyr i gymryd rhan. Dywedodd y Comisiynydd y bydd defnyddio’r cardiau nid yn unig o fudd i gyn-filwyr, ond bydd hefyd yn helpu’r broses o gasglu data. · Gofynnodd Rhianon Passmore AS i'r Comisiynydd beth oedd ei bryder mwyaf yng Nghymru. Dywedodd y Comisiynydd ei fod yn pryderu’n benodol am fynediad at wasanaethau iechyd a thai ar gyfer cyn-filwyr. · Gofynnodd y Cadeirydd am eglurhad pellach ynghylch y cyllid a ddyrennir o Gronfa Tai Cyfalaf y DU i Gymru. Dywedodd y Comisiynydd fod y broses ymgeisio bellach ar agor. Rhoddodd Peter Kellam drosolwg o’r broses hon o safbwynt Llywodraeth Cymru. · Dywedodd Simon Frith fod cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol yn gallu camddeall sefyllfaoedd o ran cysylltiadau lleol, a bod hyn yn gallu achosi problemau o ran tai. Fodd bynnag, gellir datrys sefyllfaoedd o’r fath yn aml yn dilyn sgyrsiau. Dywedodd Simon fod y cyllid ychwanegol wedi bod yn fuddiol iawn i Gymru a'i fod yn obeithiol o'r cyfleoedd y bydd yn eu hwyluso. · Gofynnodd Rhianon Passmore AS sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio codi ymwybyddiaeth ynghylch sicrhau mynediad i Gronfa Tai Cyfalaf y DU. Dywedodd Peter Kellam fod llawer o elusennau yn cymryd rhan yn y broses ymgeisio, gan ddymuno’n dda iddynt. Cytunwyd y gallai Llywodraeth Cymru ymgysylltu mwy â chymdeithasau tai. · Rhoddodd Lisa Rawlinson drosolwg o faterion tai yn ei rhanbarth. · Diolchodd y Cadeirydd i'r Comisiynydd am friffio'r grŵp, a chytunwyd y byddai copïau o gyflwyniad y Comisiynydd yn cael eu rhannu ar ôl y cyfarfod.
5. Sesiwn friffio gan Tina Foster – Rheolwr Gwasanaethau Gweithredol, TGP Cymru: · Rhoddodd Tina Foster drosolwg o’i rôl o fewn TGP Cymru, sy’n elusen plant yng Nghymru, gan nodi’r ffaith bod TGP Cymru yn cefnogi cyn-filwyr a’u teuluoedd. · Dywedodd Tina fod TGP Cymru wedi gwneud gwaith ymchwil i asesu a oedd y cymorth y mae’n ei ddarparu i deuluoedd yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl cyn-filwyr. Yn sgil llwyddiant yn y maes hwn, cafodd TGP Cymru gyllid gan Gyfamod y Lluoedd Arfog i gefnogi gwaith yr elusen. · Yn gychwynnol, roedd TGP Cymru yn cefnogi teuluoedd yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, ond mae bellach yn gallu cefnogi teuluoedd ledled Cymru. Mae TGP Cymru yn derbyn atgyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol fel therapyddion cyn-filwyr, ond mae hefyd yn derbyn hunanatgyfeiriadau uniongyrchol gan deuluoedd. · Y gobaith yw y bydd yr elusen yn gallu cael cyllid ychwanegol i’w galluogi i gefnogi teuluoedd y lluoedd arfog yn ogystal â chyn-filwyr. · Mae’r adborth a gafwyd ynghylch y gwasanaeth wedi bod yn gadarnhaol iawn hyd yn hyn. Mae TGP Cymru yn gwneud gwaith unigol â holl aelodau’r teulu, nid y cyn-filwyr yn unig, i’w helpu i ddeall y newidiadau a all ddigwydd a’r effaith y gallai hyn ei chael ar berthnasoedd. Mae TGP Cymru hefyd yn darparu arweiniad i weithwyr proffesiynol i’w helpu i gynorthwyo teuluoedd, ac yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau fel Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru (SSCE) ac Adferiad. · Gofynnodd Andy Jones o ble y daw mwyafrif yr atgyfeiriadau, a gofynnodd pwy yn y teulu sy’n gallu cael cymorth. Dywedodd Tina fod nifer o atgyfeiriadau wedi dod yn ddiweddar o gyfeiriad Bulldogs Gym yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn ogystal ag Alabare a Woody's Lodge. Soniodd hefyd am nifer o hunanatgyfeiriadau. Ailadroddodd Tina y ffaith bod TGP Cymru yn rhoi cymorth i unrhyw aelod o’r teulu, nid y cyn-filwr yn unig, a rhoddodd drosolwg o’r broses gysylltu. · Yna, gofynnodd Andy pryd y bydd y cyllid yn dod i ben. Cadarnhaodd Tina y bydd hyn yn digwydd ym mis Mawrth 2024. · Bydd yr Ysgrifennydd yn rhannu manylion TGP Cymru â’r grŵp.
6. Trafodaeth ar y Rhaglen Newid Cam: · Rhoddodd Roger Lees drosolwg o'r rhaglen Newid Cam, sydd ar hyn o bryd ond yn cael ei hariannu yng Ngogledd Cymru. Tynnodd Roger sylw at y sgyrsiau a gafwyd gyda GIG Cymru i Gyn-filwyr, Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill at ddibenion parhau i gynnal y rhaglen mewn rhanbarthau eraill yng Nghymru. · Tynnodd Roger sylw at yr angen am fwy o fentoriaid sy’n gymheiriaid o fewn GIG Cymru i Gyn-filwyr, gan nodi bod therapyddion wedi cysylltu ag ef er mwyn dweud eu bod am gael model Newid Cam yn eu rhanbarthau. · Rhoddodd Roger ganmoliaeth i Tina Foster a thîm TGP Cymru am eu gwaith o ran darparu gwasanaeth uniongyrchol i deuluoedd. · Rhoddodd y Cadeirydd ganmoliaeth i raglen Newid Cam, sy’n darparu cymorth lefel isel i gyn-filwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl a llesiant. Mae’r rhaglen yn gweithredu fel llwybr ar gyfer y rheini y gallai fod angen lefel uwch o gymorth arnynt gan GIG Cymru i Gyn-filwyr. · Ar hyn o bryd, nid oes gan Adferiad y gallu i ateb y galw am wasanaethau i gyn-filwyr, ond mae’r sefydliad ar gael ym mhob rhan o Gymru. · Rhoddodd Roger drosolwg o’r prosiectau y mae Adferiad yn eu cynnal ar hyn o bryd yng Nghymru, gan gynnwys prosiect gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; astudiaeth wedi'i hariannu ochr yn ochr â Phrifysgol Abertawe ynghylch caethiwed i gamblo; a chynllun arfaethedig i ddarparu anrhegion Nadolig i blant milwyr yn Wcráin. · Tynnodd Lianne Martinski sylw at y problemau ariannu y mae Adferiad a sefydliadau eraill yn eu hwynebu. Bydd cyllid Newid Cam yn dod i ben ym mis Ionawr 2024. · Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ymgysylltu â Gweinidogion Llywodraeth Cymru ynghylch gwasanaeth Newid Cam.
7. Unrhyw fater arall • Diolchodd y Cadeirydd i'r rhai a oedd yn bresennol, gan ddweud ei fod yn edrych ymlaen at gydweithio â'r grŵp yn y dyfodol. • Bydd dyddiadau'r cyfarfodydd i ddod yn cael eu rhannu â’r grŵp maes o law.
|